Adrodd ar Dlodi

Adrodd ar Dlodi

Kerry Moore

17,88 €
IVA incluido
Disponible
Editorial:
Cardiff Univ Press
Año de edición:
2020
Materia
Estudios mediáticos
ISBN:
9781911653196
17,88 €
IVA incluido
Disponible
Añadir a favoritos

Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno ymchwiliad manwl a systematig ar adrodd am dlodi yng Nghymru, gan drafod canfyddiadau prosiect ymchwil dwy flynedd o hyd a ariannwyd gan ’Exploring the Narrative Coalition’ (grŵp o 10 sefydliad trydydd sector sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. yr ESRC a Phrifysgol Caerdydd. Gan archwilio sut y mae newyddion am dlodi yn cael sylw gan newyddion darlledu, print ac ar-lein yn Saesneg ac yn Gymraeg, mae’n rhoi dealltwriaeth manwl o arferion presennol newyddiaduraeth a chyfathrebu ar fater hollbwysig sy’n wynebu Cymru.

Yn sgil degawd o bolisïau cyni, gyda mesurau swyddogol yn cadarnhau bod profiadau o dlodi ac amddifadedd ar gynnydd, mae’r llyfr yn cynnig ymyriad amserol, gan ymchwilio’n feirniadol i naratifau’r cyfryngau prif ffrwd ar dlodi a sut y maent yn cael eu siapio. Mae’r llyfr hwn yn seiliedig ar ymchwil gwreiddiol a gynhaliwyd rhwng 2016-7, yn ystod cyfnod helbulus sy’n cynnwys argyfwng Tata Steel ym Mhort Talbot. De Cymru, etholiadau Llywodraeth Cymru ac ymgyrch refferendwm am aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n ymdrin â sut y cafodd tlodi ei fframio ynghanol newyddion o bwys cenedlaethol ynghylch gwleidyddiaeth, busnes ac economi yn ogystal â straeon mwy lleol, personol neu o bwys i’r gymuned ynghylch bywoliaeth a materion cymdeithasol.

Mae dadansoddiad meintiol o nodweddion allweddol yr ymdriniaethau ar draws mathau o gyfryngau gwahanol yn cynnig sylfaen dystiolaeth manwl ar gyfer deall sut y cafodd newyddion ynghylch tlodi ei gynrychioli. Mae hyn yn cynnwys edrych ar y themâu cyd-destunoli mawr, grwpiau cymdeithasol a lleoliadau daearyddol sy’n cael sylw yn aml, achosion a chanlyniadau tlodi, a chyrchu gwybodaeth. Mae’n arddangos sut mae’r cyfryngau yng Nghymru yn ymateb yn wahanol i’r adroddiadau mwy negyddol sy’n nodweddiadol o rai adrannau gwasg genedlaethol y DU, yn enwedig o ran disgyrsiau sy’n achosi stigma ynghylch diweithdra a lles. Serch hynny, ceir cwestiynau pwysig eu codi ynghylch sut mae naratifau newyddion yn cyfleu ystyr ac yn enwedig y datgysylltiad rhwng y sylw a roddir i dueddiadau neu ddigwyddiadau macro-economaidd a’u heffaith ar fywydau pobl gyffredin.

Yn ogystal, mae’r llyfr yn archwilio pam fod y sylw a roddir i newyddion am dlodi yn cael ei lunio fel ag y mae, gan ddefnyddio canfyddiadau cyfweliadau manwl gyda newyddiadurwyr a golygyddion am eu harferion. Drwy olwg gwerthoedd a phrofiadau proffesiynol, mae’r llyfr yn ymchwilio’r heriau sy’n debygol o effeithio ar adrodd am dlodi. Ymhlith y materion allweddol mae defnyddio adnoddau ac arbenigedd arbenigol a ddyrennir i newyddiaduraeth materion cymdeithasol, yr anawsterau o ran adnabod a chyrraedd o bosibl grwpiau agored i niwed ledled Cymru a chynrychioli astudiaethau achos yn deg ac yn foesegol. Cynhaliwyd set o gyfweliadau gyda gweithwyr trydydd sector proffesiynol ynghylch eu hymgysylltiad gydag arferion y cyfryngau newyddion a chysylltiadau. Maent yn cynnig mwy o wybodaeth am sut y caiff newyddion am dlodi ei lunio. Yma, ystyrir y pwysau o ran adrodd am dlodi o bersbectif gwahanol, lle gall ceisio dylanwadu sylw tlodi yn y wasg ac ymateb i ofynion newyddion greu tensiynau proffesiynol rhwng newyddiadurwyr a’r trydydd sector a/neu perthnasau cydweithredol cynhyrchiol positif sy’n effeithio ar naratifau’r newyddion.  

Drwy gynnig llun manwl o sut a pham mae naratifau newyddion tlodi wedi’u siapio fel ag y maent, mae’r llyfr yn bwriadu creu sail dystiolaeth fydd yn llywio’r gwaith o adrodd am dlodi yn fwy cywir, cynrychioladol ac ystyrlon yng Nghymru.  

Artículos relacionados

  • Impact of Communication and the Media on Ethnic Conflict
    Throughout the world, cultural and racial clashes remain a major hurdle to development and progress. Though some areas are experiencing successful intercultural communications which pave the way for peaceful negotiations, there are still many regions experiencing severe turmoil. Impact of Communication and the Media on Ethnic Conflict focuses on both the positive and negative o...
    Disponible

    242,92 €

  • The Game to Show the Games
    Morgan Wick
    ESPN collects hundreds of millions of dollars in rights fees from cable subscribers, before selling a single advertisement. In The Game to Show the Games, Morgan Wick exposes how this lucrative revenue stream and the competition between media conglomerates has become a billion-dollar boon for sports leagues across the nation and the world, and how this has shaken up the rest o...
    Disponible

    9,42 €

  • Exploring the Benefits of Creativity in Education, Media, and the Arts
    The use of imagination can lead to greater outcomes in problem solving, innovation, and critical thinking. By providing access to creative outlets, productivity increases in schools, businesses, and other professional settings. Exploring the Benefits of Creativity in Education, Media, and the Arts is a pivotal reference source for the latest scholarly research on the stimulatio...
    Disponible

    275,97 €

  • Celebrity, Pedophilia, and Ideology in American Culture
    Jason Lee
    Celebrity, Pedophilia, and Ideology in American Culture reveals the connections between rapacious capitalism and the rape of children. The twenty chapters, which span the analysis of childhood, celebrity culture, important books and films on pedophilia and violence, post-9/11 theology and public rhetoric, and killing for fame, in an interrelated fashion cover intrinsically impo...
    Disponible

    146,65 €

  • Researching Digital Media and Society
    Moa Eriksson Krutrök / Simon Lindgren
    ...
    Disponible

    54,14 €

  • Researching Digital Media and Society
    Moa Eriksson Krutrök / Simon Lindgren
    ...
    Disponible

    147,47 €

Otros libros del autor

  • Reporting on Poverty
    Kerry Moore
    This book presents an in-depth, systematic investigation of the reporting of poverty in Wales, discussing findings from a two-year research project funded by the ’Exploring the Narrative Coalition’ (a group of 10 Wales-based third sector organisations), the ESRC, and Cardiff University. Examining how poverty news is covered in the English and Welsh languages across broadcast, p...
    Disponible

    17,84 €